Quantcast
Viewing latest article 6
Browse Latest Browse All 20

Nissan Leaf 9/10 – ond mae’r 10% olaf yn torri’r pwrcas

Image may be NSFW.
Clik here to view.
Leaf

Yn Rhagfyr, ro’n i angen car newydd, felly cymerais Nissan Leaf am yrru fel prawf. Car trydan ydy’r Leaf, a’r car gorau mod i wedi gyrru oedd o. Ond ar ôl i’r prawf, wnes i brynu’r Nissan Note, achos o’r rheswm amlwg.

Mae’n bechod, achos mae’r Leaf yn bleser i yrru. Mewn car gwych efo peiriant tanio mewnol (ICE), dach chi’n medru pwyso’r cyflymydd ac yn clywed ‘vroom’ mewn amrantiad. Does dim ‘vr…’ efo car trydanol, dim ond …oom.

Gallai’r Leaf mynd o’r golau traffig, neu o’r gylchfan yn fuan iawn. Oedd rhaid i fi arafu, i ganiatáu y ceir ICE i oddiweddyd. Rhwng 0 a 30 m.y.a., mae’r Leaf yn cyflymu cyflymaf. Ar ôl 30mya, mae’r cyflymu yn arafu, felly’r ffigurau am 0-60 sy’n yn dlawd, ond dw i’n mynd rhwng dim i dri deg yn fwy aml na dim i chwe deg.

Mae’r daith yn gyfforddus. Pam, dw i ddim yn gwybod. Y pwysyn o’r batris, falle, ond oedd o’n taclo ffyrdd lleuog yn well na fy Saab.

Roedd y gyrru prawf dros benwythnos. Dw i angen i yrru i Rydychen yn aml. Felly, cymerais y car o’r garej Greenhous yn yr Amwythig i Rydychen i weld fy nghariad, wedyn cymerais i hi i weld ei ffrind ym Mryste. Dywedodd Nissan fod y cwmpas o’r batris oedd tua 80 milltir efo gwefr llawn. Roedd hyn yn gywir, ond dim y stori llawn.

Tua 120 milltir ydy’r pellter rhwng yr Amwythig a Rhydychen, felly wnes i feddwl i stopio bob 40 milltir i fod yn saff. Felly, Frankley ar y M5, wedyn Warwick ar y M40, wedyn gwefr olaf yn Peartree ar ymyl Rhydychen, achos fedra i ddim yn gwefru yn y stryd tu allan o’r tŷ fy nghariad.

Roedd hyn pan ddechreuodd y trwbl.

Gallwch chi’n gwefru efo soced Ecotricity am ddim, lle mae gynnyn nhw socedi yn wasanaethau. Os maen nhw’n gweithio. Tra ro’n i’n teithio, hanner o’r socedi wedi torri lawr. Does dim socedi oedd gweithio yn Frankley, felly oedd rhaid i fi fynd i Hopwood ar y M42.

Cyrhaeddais i yn Hopwood efo 19 milltir o gwmpas. Dydy o ddim yn broblem i wefru. Wnes i frwydr i gymryd y plwg o’r car, ond helpodd rhywun efo Leaf arall i fi.

Hanner pellter oedd Hopwood, felly mewn byd delfryd gallwn i fynd i Rydychen mewn un tro. Sut bynnag, weles i oedd y soced yn Peartree wedi torri lawr. Felly rhaid i fi wefru yn Cherwell Valley, y gwasanaethau cyn Rhydychen. Sut bynnag, weles i oedd y soced yn Cherwell Valley wedi torri lawr. Felly oedd rhaid i fi wefru yn Warwick beth bynnag.

Pan ddach chi’n gwefru mewn gwasanaethau ni allwch chi ddim yn gwefru i 100%. Mae’r socedi Ecotricity yn gwefru i 80% yn unig. Yn Rhydychen wnes i ddod o hyd beth digwydd pan y wefr batri yn cwympo dan 20%. Larymau. Felly, dach chi ddim isio defnyddio’r car dan wefr 20%, a dydach chi ddim yn medru gwefru dros 80%. Os dach chi’n gyrru ar draffyrdd, dach chi’n gyrru efo’r 60% o egni yn y canol o’r batri. Felly’r cwmpas car ar y traffyrdd ydy tua 50 milltir neu is. Pob gwefr ydy hanner awr, felly mae’r teithiau yn dod i fod mwy araf efo stopiau mewn pob gwasanaethau, achos dydach chi ddim yn medru siŵr bod y socedi sy’n gweithio yn y gwasanaethau nesaf.

Dw i’n teimlo mod i’n dod i fod Jeremy Clarkson, neu ohebydd o’r Daily Mail, ond mae gobaith.

Mae Nissan newydd ddechrau werthu Leaf efo batri 30kwh yn lle o’r batri 24kwh. Mae ei gwmpas wedi tyfu o tua 80 milltir i 100 milltir. Yn 2017, mae Nissan yn gobeithio i werthu car efo batri 60kwh. Os mae fo’n gallu teithio tua 120 milltir rhwng gwefrau ar y traffyrdd, wedyn bydd o’n bwysig, achos faint o amser dach chi’n medru gyrru heb stop? Yn 2016 bydd Tesla yn dadlennu ei gar newydd, y Model 3 efo pris yn fwy realistig na ei geir eraill. Mae ‘na si bod gan Volkswagen car trydanol newydd am 2016. Ar ôl ‘Dieselgate’ maen nhw angen rhai o newyddion da, a dydy’r eu e-Golf ddim yn dda iawn.

Pan mae gan geir y cwmpas i deithio heb boeni, wedyn byddan nhw’n yn dod i fod mwy atyniadol i’r cyhoedd. Efo llai o rannau symudol, mae’r peiriant trydanol yn fwy dibynadwy na ICE. Maen nhw’n rhatach i redeg, ond bydd trethi newydd yn newid hynny, pan ceir trydanol yn affeithio cyllid olew i’r trysorlys. Sut bynnag, bydd y profiad gyrru yn gwella tra’r dechnoleg yn gwella.

Dydy’r ceir trydanol ddim yn barod i bawb yn eto, ond o fewn degawd dylen nhw’n bod. Mae’r batris o fewn ceir Tesla yn rhy ddrud heddiw, ond mae’r dechnoleg yn bod. Economeg ydy’r sialens fawr rŵan nid ffiseg. Gallai eich car nesa yn bod yn drydanol.


Viewing latest article 6
Browse Latest Browse All 20

Trending Articles