
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, oedd y seicolegwr Stanley Milgram isio sut y gallai cymaint o bobl yn gwneud cymaint o bethau drwg? Wnaeth e arbrofion, ac roedd e’n ffeindio bydd pobl yn ymostwng i awdurdod. Efallai oedd pobl yn cwyno pan oedden nhw’n gwneud rhywbeth drwg, fel rhoi sioc drydanol i rywun nes iddo fe farw, ond roedden nhw’n dal gwneud e.
Pam neu sut?
Dyna erthygl newydd (heb farwolaethau, yn ffodus) yn Current Biology mis ‘ma syn edrych ar broblem hwn.
“Efallai bod rhai o deimlad basig cyfrifoldeb yn lleihau pan dyn ni’n cael ein gorfodi i wneud rhywbeth,” medd Patrick Haggard o’r Coleg Prifysgol Llundain. “Mae pobl yn hawlio’n aml mae ganddyn nhw gyfrifoldeb llai achos roedden nhw’n only obeying orders. Ond ydyn nhw’n unig ddweud hynny i osgoi cosb, neu ydy’r gorchmynion yn newid sylfaenol y profiad basig o gyfrifoldeb?”
Roedd Haggard a’i dîm yn ceisio i ateb y cwestion gan fesur synnwyr effaith, sense of agency yn Saesneg. Teimlad bod eich gweithred wedi achosi effaith yw e. Er enghraifft, mae Haggard wedi esbonio, tasech chi fflipio switsh wedyn mae golau’n ddisglair, basech chi’n teimlo oedd y digwyddiadau’n gydamersol, hyd yn oed os oes oediad.

Llun gan Caspar et al. 2016.
Yn yr astudiaeth newydd, roedd yr ymchwilwyr yn mesur synnwyr effaith yn yr un modd i archwilio newidiadau yn ganfyddiad pan rhywun rhoi sioc drydanol gwan i berson arall, ai derbyn gorchmynion ynteu trwy ddewis ei hun. Mewn arbrofion eraill oedd y niwed yn gosb ariannol yn lle o boen wan.
Pan ddewison y cyfranogwyr yn rhydd, roedden nhw’n cael eu calonogi gydag addewid o gynnydd ariannol bach. Roedden nhw’n gwybod yn union pa fath o boen bod nhw’n dodi i’w gilydd, achos ffeirion nhw eu lleoedd i’w gilydd. Roedd pobl pwy sy’n rhoi cosb yn rhai o sesiynau yn derbyn yr un peth yn sesiynau eraill.
Mae’r ymchwilwyr yn gohebu oedd gorthrech yn creu cynnydd bach ond arwyddocaol mewn amser canfyddedig rhwng achos ac effaith yn erbyn sefyllfaoedd lle dewison y cyfranogwyr yn rhydd i beri’r un gosb. Hefyd, mae gorthrech yn lleihau’r prosesu niwral o’r canlyniadau gweithredoedd. Wnaeth yr ymchwilwyr ddiweddu gall hawliau o gyfrifoldeb llai yn cyfateb gyda newid mewn teimladau basig o gyfrifoldeb, ac nid yw dim ond ymgeisiadau i osgoi cosb gymdeithasol.
“Pan ddych chi’n teimlo synnwyr effaith – dych chi’n teimlo atebol am ganlyniad – mae gynnoch chi newidiadau yn y profiad amser, lle beth ddych chi’n gwneud a’r canlyniad bod dych chi’n cynhyrchu sy’n ymddangos gyda’i gilydd yn fwy agos.” medd Haggard.
Felly tasech chi’n gweithio i rywun fel Iain Duncan-Smith basai eich cyflog yr awr angen i roi cyfrif am bob awr yn teimlo fel mae gynni hi funudau ychwanegol.
Emilie A. Caspar, Julia F. Christensen, Axel Cleeremans, Patrick Haggard, 2016, ‘Coercion Changes the Sense of Agency in the Human Brain’, Current Biology http://dx.doi.org/10.1016/j.cub.2015.12.067
Tarddle: Eurekalert.